Gallwch godi arian i ni mewn sawl ffordd wahanol a helpu i gefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd i gyflawni eu potensial yn llawn...
Codi arian yn yr ysgol...
Mae cymaint o ffyrdd o godi arian i Sefydliad Pêl-droed Dinas Caerdydd yn yr ysgol! Dyddiau dim gwisg ysgol, gwerthu cacennau, gwerthu teganau, sioeau talent, diwrnod chwaraeon, chi biau'r dewis! Cysylltwch â’r tîm drwy fundraising@cardiffcityfc.org.uk
i gael deunyddiau codi arian ac i gael rhagor o wybodaeth am sut gall eich ysgol helpu i gefnogi’r Sefydliad.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am sut gallai eich ysgol chi gymryd rhan yn un o’n prosiectau addysg anhygoel, anfonwch e-bost i info@cardiffcityfc.org.uk!
Codi arian yn y gwaith...
O bartneriaeth lawn Elusen y Flwyddyn i ddiwrnod gwisgo'n anffurfiol neu werthu cacennau yn y swyddfa, byddem wrth ein bodd yn gweithio gyda’ch cwmni a chael eich cefnogaeth i’n Sefydliad. Gallwn ddarparu llawer o gefnogaeth, syniadau codi arian llawn a chalendr digwyddiadau, a chyfle i fod yn rhan o elusen swyddogol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd.
Cofiwch wneud yn siŵr bod eich cyflogwr yn cynnig arian cyfatebol!
Codi arian yn eich cymuned...
Ydych chi’n rhan o grŵp cymunedol? Ydych chi a’ch grŵp eisiau helpu i wneud gwahaniaeth i blant, pobl ifanc a theuluoedd lleol?
O Glybiau Rotari i glybiau golff, corau a Merched y Wawr, mae cymaint o sefydliadau anhygoel sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth i fywydau bob dydd yn y gymuned. Byddem wrth ein bodd yn siarad â chi am ein gwaith a sut gallwch chi wneud gwahaniaeth mwy fyth drwy godi arian i gefnogi ein rhaglenni hanfodol ledled De Cymru.
Cyfrannu eich dathliad...
Mae rhoi mewn dathliad yn ffordd wych o gyflwyno eich achlysur arbennig i wneud gwahaniaeth i blant, pobl ifanc a theuluoedd sy’n wynebu anghydraddoldebau yn Ne Cymru.
Gallai cefnogi Sefydliad Pêl-droed Dinas Caerdydd fel rhan o’ch dathliad ei wneud hyd yn oed yn fwy arbennig, a byddai’n helpu i gael effaith barhaol yn ein cymunedau.
Boed hynny'n briodas, pen-blwydd neu'n ben-blwydd yr ydych yn ei ddathlu, gofynnwch am roddion yn hytrach nag anrhegion. I wneud hyn, gallwch:
- Sefydlu tudalen JustGiving
- Sefydlu Facebook Fundraiser
- Cysylltwch â ni i gael amlenni rhodd ar gyfer eich digwyddiad drwy fundraising@cardiffcityfc.org.uk.
Bydd eich dathliad yn ein helpu ni i gefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd yn Ne Cymru, y mae pandemig Covid-19 wedi effeithio'n anghymesur ar lawer ohonynt.
Rydyn ni yma i’ch cefnogi chi!
Os ydych chi eisoes yn gwybod sut rydych chi eisiau codi arian, neu os ydych chi’n chwilio am ysbrydoliaeth, cysylltwch â ni a gallwn ni roi’r holl gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i sicrhau bod eich gwaith codi arian yn llwyddiant.
Byddwn yn rhoi bwcedi casglu, ffurflenni noddi a phosteri i chi i gefnogi eich digwyddiadau, canllawiau ar sefydlu tudalen codi arian ar-lein, a llawer o awgrymiadau a chyngor defnyddiol er mwyn i chi fwynhau pob cam o’ch taith codi arian.
Fel arall, gallwch roi rhodd uniongyrchol i ni drwy glicio yma.