Fel rhan o ymrwymiad parhaus Cardiff City FC Foundation i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant rydym wedi datblygu Cynllun Gweithredu ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Rydyn ni’n cyhoeddi’r Cynllun er tryloywder ac atebolrwydd.
Mae ein cynllun yn amlinellu’r camau ar gyfer sicrhau y caiff Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant eu plannu yn niwylliant ein sefydliad a thrwy ein holl wasanaethau, a’u bod yn ystyriaeth allweddol ym mhob peth a wnawn.
Rydym yn falch o’r cynnydd rydym wedi’i wneud hyd yma, ond yn llwyr ddeall bod ffordd bell i fynd ar hyd ein taith.
Byddem yn croesawu sgyrsiau pellach gyda’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu, er mwyn cyflawni ac adeiladu ar y camau gweithredu a amlinellir yn y ddogfen hon.
Gallwch weld ein Cynllun Gweithredu ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yma.