BTEC Lefel 3 mewn Chwaraeon

Mae ein cwrs Lefel 3 yn rhoi cyfle i ddysgwyr gwblhau Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 mewn Chwaraeon...

Why the project is needed?

Cafodd 73.6% o’r graddau eu marcio yn A* i C o’i gymharu â 73.8% yn 2020

How did we help?

Fe wnaethom gefnogi bron i 150 o bobl ifanc yn ystod y pandemig a drwy’r cyfyngiadau symud

What are the results?

Symudodd 89% o ddysgwyr ymlaen i addysg bellach neu gyflogaeth

Mae Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 mewn Perfformiad a Rhagoriaeth mewn Chwaraeon yn gwrs unigryw lle gall myfyrwyr ddatblygu eu hoffter o chwaraeon a’u brwdfrydedd dros ddysgu.

Rydyn ni’n ymfalchïo mewn creu amgylchedd croesawgar a chefnogol er mwyn i’n myfyrwyr allu ffynnu. Cynhelir y cwrs mewn partneriaeth â Choleg Caerdydd a’r Fro ac mae’n rhoi cipolwg i fyfyrwyr ar ymarferoldeb y diwydiant chwaraeon, mewn amgylchedd dysgu anhraddodiadol.

Mae gwersi damcaniaethol yn ymdrin ag ystod eang o bynciau. Mae’r unedau’n cynnwys Anatomeg a Ffisioleg, Hyfforddi ar gyfer Perfformiad a Phrofi Ffitrwydd.

Mae ein tiwtoriaid brwd yn gweithio’n agos gyda phob unigolyn i ddeall eu hanghenion i’w helpu i symud ymlaen i brifysgol neu gyflogaeth. Rydyn ni’n cefnogi uchelgais myfyrwyr i symud ymlaen i addysg uwch neu gyflogaeth drwy fentora, defnyddio ein harbenigedd, a’n gallu i drefnu profiad gwaith perthnasol yn y diwydiant chwaraeon.

Fel rhan o’r cwrs, bydd myfyrwyr yn cael cyfle i gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru ac ailsefyll TGAU Mathemateg a Saesneg.

Mae’r cymhwyster hwn yn gyfwerth â thri chymhwyster Safon Uwch ac mae’n darparu’r gofynion mynediad ar gyfer y rhan fwyaf o brifysgolion mawr.

Rydyn ni hefyd yn cynnig cyfleoedd allgyrsiol i fyfyrwyr drwy gydol y cwrs, gan gynnwys cyfleoedd gwirfoddoli gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, a’r cyfle i gwblhau cymwysterau hyfforddi Lefel 1 Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Astudio a Chynrychioli Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd

Futsal

Mae Futsal yn gêm bêl-droed gyffrous a phrysur, gyda nifer fach o chwaraewyr bob ochr, ac mae’r gêm yn rhoi pwyslais mawr ar sgiliau technegol a gallu mewn sefyllfaoedd pwysau uchel, ac mae’n lle gwych i ddysgu sgiliau pêl-droed y gellir eu trosi i fformat 11-ochr y gêm.

Hyd: 2 Mlynedd

Dull astudio: Amser llawn

Gofynion Mynediad: O leiaf 4 TGAU A* – D (C neu uwch mewn Mathemateg a Saesneg yn ddymunol iawn)

Cymhwyster: Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 mewn Chwaraeon (Perfformiad a Rhagoriaeth) (3 chymhwyster Safon Uwch cyfatebol)

Cwestiynau Cyffredin ynghylch BTEC Lefel 3

Express your interest today!

Future Pathways Registration Form

Participant Details and Information







Parent/Guardian Details




Other Details

Consent Information


Rydym yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau ar ein gwefan