![](/assets/images/_medium/14278/CDF_111022_CardiffCityFoundation082.jpg)
Hyfforddeiaeth
Mae’r Radd Sylfaen yn rhoi cyfle i ddysgwyr astudio cwrs dwy flynedd ar y cyd â Phrifysgol De Cymru...
Why the project is needed?
Mae ychydig o dan un rhan o bump o fyfyrwyr (18%) nad ydynt yn bwriadu mynd i brifysgol neu goleg yn yr hydref yn teimlo nad oes ganddynt lawer o opsiynau ar gyfer y flwyddyn nesaf
How did we help?
Rydyn ni wedi mabwysiadu model dysgu cyfunol, sy’n cynnwys dysgu wyneb yn wyneb a dysgu ar-lein
What are the results?
Symudodd 81% o ddysgwyr ymlaen i addysg bellach neu gyflogaeth
Mae’r Radd Sylfaen mewn Hyfforddi a Datblygu Pêl-droed Cymunedol yn cynnig amrywiaeth o lwybrau gyrfa cyffrous yn y diwydiant pêl-droed.
Rydyn ni'n gweithio’n agos gyda’n partneriaid, Prifysgol De Cymru i sicrhau eich bod yn cael y profiad dysgu gorau un.
Mae pob darlith, seminar a thiwtorial yn cael eu cyflwyno drwy’r platfform dysgu ar-lein, mewn amgylchedd cefnogol.
Mae ystafelloedd dosbarth llai yn caniatáu ar gyfer dulliau dysgu mwy personol. Mae ein tiwtoriaid yn gallu rhoi llawer iawn o gefnogaeth i bob myfyriwr.
Ochr yn ochr ag elfen academaidd y cwrs, bydd myfyrwyr yn cwblhau hyd at 200 awr o hyfforddiant gwirfoddol yn y gymuned, gan weithio gyda Sefydliad Pêl-droed Dinas Caerdydd a staff Academi Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd.
Mae’r cwrs hwn yn caniatáu i chi astudio am drydedd flwyddyn i ennill cymhwyster llawn lefel Baglor.
Cymhwyster Academaidd
Gradd Sylfaen mewn Hyfforddi a Datblygu Pêl-droed Cymunedol
Caiff lleoedd eu cynnig ar sail y cyntaf i’r felin.
Medi 2022
Mae’r cwrs yn costio £8,000 i fyfyrwyr am bob blwyddyn academaidd; fodd bynnag, mae cyllid myfyrwyr yn talu am y gost hon.