BTEC Lefel 2 mewn Chwaraeon

Mae ein cwrs Lefel 2 yn rhoi cyfle i ddysgwyr gwblhau Diploma BTEC Lefel 2 mewn Chwaraeon...

Why the project is needed?

Roedd 98.5% wedi pasio rhwng graddau A* i G, gostyngiad bach ar ffigur y llynedd o 99.6%

How did we help?

Rydyn ni wedi mabwysiadu model dysgu cyfunol, sy’n cynnwys dysgu wyneb yn wyneb a dysgu ar-lein

What are the results?

100% o ddysgwyr ar y cwrs wedi symud ymlaen i addysg bellach a chyflogaeth

Strwythur y cwrs BTEC Lefel 2 yw’r cydbwysedd perffaith rhwng dysgu yn yr ystafell ddosbarth a gweithgareddau ymarferol.

Rydyn ni’n falch o allu cynnig awyrgylch hamddenol i’n myfyrwyr ddysgu a’r cyfle i drosglwyddo’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu yn yr ystafell ddosbarth drwy sesiynau hyfforddi ymarferol wedi’u strwythuro.

Bydd myfyrwyr yn gweithio i gwblhau Diploma BTEC Lefel 2 mewn Chwaraeon, sy’n gymhwyster academaidd cyfwerth â 4 TGAU. Rydyn ni'n darparu cyfleoedd cynnydd gwych i’r dysgwyr hynny sy'n awyddus i astudio BTEC Lefel 3, yn ogystal â darparu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth neu brentisiaethau.

Bydd myfyrwyr yn cael yr wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer dealltwriaeth sylweddol o egwyddorion chwaraeon. Mae modiwlau’r wers yn cynnwys anatomeg, ffisioleg, seicoleg chwaraeon, hyfforddiant chwaraeon ac ymchwil chwaraeon.

Futsal

Un o agweddau mwyaf unigryw rhaglen Llwybrau’r Dyfodol yw bod amser ein myfyriwr yn cael ei rannu rhwng theori a dysgu ymarferol.

Mae Futsal yn gêm bêl-droed gyffrous a phrysur i grwpiau llai, ac mae’r gêm yn rhoi pwyslais mawr ar sgiliau technegol a gallu mewn sefyllfaoedd pwysau uchel.

Mae gennym dri maes chwarae Futsal modern lle mae ein myfyrwyr yn cynrychioli Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yng Nghynghrair Cymdeithas y Colegau Futsal, gan chwarae gwrthwynebwyr o’r Uwch Gynghrair a Chynghrair Pêl-droed Lloegr bob wythnos.

Mae timau dynion a merched wedi cael blas ar lwyddiant yn ddiweddar, gan ennill Teitl Rhanbarth y De Orllewin, a’r Girls Futsal Shield.

Hyd: Blwyddyn

Dull astudio: Amser llawn

Cymhwyster: BTEC Lefel 2 mewn Chwaraeon

Cwestiynau Cyffredin ynghylch BTEC Lefel 2

Darparu cyfleoedd addysg a chyflogaeth i bobl ifanc

Caiff lleoedd eu cynnig ar sail y cyntaf i’r felin.

Dillad Hyfforddi Rhaglenni

Yn rhan o’r broses gofrestru ar gyfer y cwrs hwn, byddwch yn cael y cyfle i ddod yn nes at y clwb a theimlo’n rhan ohono. Rydyn ni’n gweld bod dillad hyfforddi yn rhan enfawr o hyn o ran rhoi darlun gweledol o’ch cysylltiad â Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd.

Express your interest today!

Future Pathways Registration Form

Participant Details and Information







Parent/Guardian Details




Other Details

Consent Information


Rydym yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau ar ein gwefan