Gweithio mewn partneriaeth â ni

Charity Partnership

Partneriaethau Corfforaethol

Mae ein partneriaid yn gwerthfawrogi ein bod yn cyrraedd bob cwr o dde Cymru, ein rhwydweithiau a’n brand dibynadwy. Byddwn yn gweithio gyda chi i greu partneriaeth unigryw sy’n diwallu anghenion eich busnes, ar yr un pryd â chefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd yn ne Cymru i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn partneriaeth Elusen y Flwyddyn, datblygu eich brand drwy ein cyfleoedd noddi, neu os ydych yn chwilio am ffyrdd arloesol o ymgysylltu â’ch gweithwyr, gallwn eich cefnogi i ddangos eich ymrwymiad i’r gymuned leol.

Pam bod yn bartner i ni?

  • Byddwn yn gweithio gyda chi i sicrhau eich bod yn cael yr effaith gymdeithasol sydd ei hangen arnoch ac yn cyflawni eich amcanion CSR.
  • Mae gennym fynediad at gynulleidfa eang ar draws nifer o sianeli cyfathrebu sy’n barod i hyrwyddo ein partneriaethau.
  • Gallwn gynnig nawdd ar amrywiaeth eang o’n prosiectau, gan roi cyfleoedd brandio pwerus i’ch busnes sy’n cyd-fynd â’ch gwerthoedd.
  • Mae gennym enw da am ffurfio partneriaethau corfforaethol llwyddiannus mewn ystod eang o sectorau.
  • Gallwn eich cefnogi gyda gweithgareddau ymgysylltu ystyrlon â gweithwyr a fydd yn dod â nhw’n nes at y busnes a’u cymuned leol.

Cysylltwch â ni yn awr i gael rhagor o wybodaeth drwy fundraising@cardiffcityfc.org.uk neu 029 2023 1212.

Rydym yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau ar ein gwefan