
Pêl-droed dan Gerdded
Mae Sefydliad Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi ymuno ag Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog i greu’r prosiect Llwybrau Cadarnhaol...
Mae Llwybrau Cadarnhaol yn brosiect ynysu cymdeithasol sy’n cefnogi Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog sy’n wynebu risg uchel o arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd.
Mae’r prosiect yn defnyddio pŵer Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd i gysylltu a chefnogi cyn-filwyr, gyda’r nod o leihau ynysigrwydd cymdeithasol, unigrwydd a gwella lles corfforol a meddyliol.
Mae gan Gymru un o’r cyfrannau mwyaf o gyn-filwyr yn y DU, gyda 7% o’r holl gyn-filwyr yn byw yma ar hyn o bryd. Mae gan Gaerdydd a Bro Morgannwg boblogaeth o gyn-filwyr o tua 27,320 ac mae 8% yn dioddef o broblemau iechyd meddwl gan gynnwys iselder a gorbryder.
Mae sesiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein wythnosol yn darparu strwythur a chymorth i bobl ddod ynghyd, cysylltu a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau sy’n gwella lles corfforol a meddyliol.
Supporting ex-armed forces personnel who may be lonely and socially isolated
Mae cyn-filwyr yn gallu cysylltu ar-lein ac adeiladu ar berthnasoedd presennol neu greu perthnasoedd newydd wrth gael gafael ar y canlynol:
Ymunwch â Chanolfan Cyn-filwyr Dinas Caerdydd yn un o’n dau leoliad:
Pêl-droed dan Gerdded
Clwb 1927
Mae Clwb 1927 yn darparu canolfan gymdeithasol yn Stadiwm Dinas Caerdydd i unigolion sy’n byw gyda dementia yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg...
FIT FANS
FIT FANS is a FREE health programme for men and women aged 35-65 who are looking to lose weight, get fitter and lead a more active life...