Mae rhoi rhodd er cof am rywun yn ffordd arbennig ac ystyrlon iawn o gofio amdano. Byddwch yn anrhydeddu eu bywyd ac yn helpu eraill yn ein cymuned hefyd. Rydyn ni bob amser yn hynod ddiolchgar o gael y rhoddion hyn.
Rhoi er cof am rywun annwyl
Rhowch rodd yn enw eich anwyliaid. Wrth i chi wneud eich rhodd, gallwch ddweud wrthym beth yw enw’r person arbennig hwn ac, os hoffech chi, gallwch ddweud mwy wrthym pam eich bod yn rhoi cyfraniad.
Creu tudalen deyrnged
Mae sefydlu tudalen deyrnged gyda JustGiving yn hawdd. Gallwch greu a rhannu tudalen sy’n cynnwys atgofion personol a lluniau. Gall eich teulu a’ch ffrindiau ychwanegu eu teyrngedau eu hunain. Gallant hefyd gyfrannu neu gysylltu eu tudalennau codi arian eu hunain er cof am eich anwyliaid. Gall y dudalen deyrnged aros ar agor am ba hyd bynnag y dymunwch, a gallwch barhau i gofio eich anwylyd gyda rhoddion ar ben-blwyddi neu ddyddiadau ystyrlon eraill am flynyddoedd i ddod.
Creu eich tudalen deyrnged yma.
Cysylltwch â ni os hoffech chi gael help i sefydlu eich tudalen deyrnged gyda JustGiving.
Casgliadau o angladdau a gwasanaethau coffa
Gallwch hefyd drefnu casgliad yn lle blodau yn angladd neu wasanaeth coffa eich anwyliaid fel ffordd arbennig arall o roi rhodd er cof amdanynt.
Dylai eich trefnydd angladdau drefnu hyn ar eich rhan gyda rhoddion yn cael eu hanfon i Sefydliad Cymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd. Os ydych chi’n dewis gwneud hyn eich hun, mae’n hawdd creu tudalen gasglu ar-lein gan ddefnyddio JustGiving neu gysylltu â ni i gael amlenni rhoddion, rydyn ni'n fwy na pharod i’ch cefnogi.
Os ydych chi’n bwriadu anfon eich casgliad atom, peidiwch ag anfon arian parod drwy’r post. Rydyn ni'n argymell anfon siec yn daladwy i ‘Cardiff City FC Community Foundation’.
Ein cyfeiriad yw:
Sefydliad Pêl-droed Dinas Caerdydd
Clos Parc Morgannwg
Caerdydd
CF11 8AW
Hoffem ysgrifennu atoch i ddiolch i chi am y rhodd arbennig hon, felly cofiwch gynnwys eich manylion cyswllt.
Rydyn ni yma i helpu
Rydyn ni’n gwybod bod hwn yn gyfnod anodd, felly os oes unrhyw beth y gallwn ni eich helpu chi gydag ef, mae croeso i chi gysylltu drwy ffonio 0292023121212, neu anfon neges e-bost i fundraising@cardiffcityfc.org.uk. Rydyn ni yma i helpu a byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.