
BTEC Lefel 2 mewn Chwaraeon
Mae’r rhaglen Hyfforddeiaethau yn cynnig cyfle i ddysgwyr ddarganfod beth maen nhw'n gallu ei wneud heb y pwysau i ennill cymwysterau...
Why the project is needed?
Ym mis Ebrill 2020, mae’r gyfradd diweithdra ymysg pobl ifanc yng Nghymru yn 10.8%
How did we help?
Fe wnaethom ddarparu 1538 o wersi i bobl ifanc ar ein prosiect Hyfforddeiaeth
What are the results?
Aeth dros 30 o ddysgwyr ymlaen i’n rhaglen Lefel 1
Strwythur y cwrs Ymgysylltu â Hyfforddeiaethau yw’r cydbwysedd perffaith rhwng dysgu yn yr ystafell ddosbarth a gweithgareddau ymarferol.
Mae ein cwrs Ymgysylltu â Hyfforddeiaethau yn rhoi’r cyngor, y technegau a’r profiad i bobl ifanc ddod yn barod am waith neu symud ymlaen i addysg bellach.
Rydyn ni'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau meddal mewn amgylchedd hyblyg i helpu i ddatgloi potensial pob myfyriwr a pheidio â rhoi unrhyw bwysau ar ennill cymwysterau.
Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda phob unigolyn ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer lleoliadau seiliedig ar waith yn y diwydiant chwaraeon a hamdden egnïol.
Ar ôl cwblhau cwrs ymgysylltu â hyfforddeiaeth, gall myfyrwyr symud ymlaen i'r cwrs Hyfforddeiaeth Lefel 1.
Wrth gymryd rhan yn y cwrs, bydd myfyrwyr yn cael £30 yr wythnos yn ogystal ag unrhyw gostau teithio.
Hyd: 12 - 26 wythnos (Cofrestru gydol y flwyddyn)
Dull astudio: 3 diwrnod yr wythnos (Llun, Maw, Mer)
Gofynion Mynediad: Dim
Cymhwyster: Sgiliau Hanfodol – Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu – Cymhwyso Rhif Cymorth Cyntaf
Sut mae ymuno? Gwneir y cyfeiriadau drwy Gyrfa Cymru neu llenwch y ffurflen isod