Yn y cyfnod cyn y Nadolig, mae ein hyfforddwyr wedi bod yn brysur yn rhoi gwên ar wynebau drwy ddanfon parseli o deganau i lond llaw o’n hysgolion partner.
Gyda chefnogaeth Kayes o Cardiff Toys, rydyn ni wedi darparu pecynnau i 15 o ysgolion cynradd partner yng Nghaerdydd a’r Cymoedd – gan rannu llawenydd y Nadolig ar draws de Cymru.
Un o’r ysgolion a gafodd barsel tegan oedd Ysgol Gynradd Gymunedol Penpych ym Mlaenrhondda yn Rhondda Cynon Taf.
Dywedodd Mr Teifion Lewis, Pennaeth Ysgol Gynradd Gymunedol Penpych:
“Rydyn ni mor ddiolchgar am y rhoddion caredig gan Sefydliad Pêl-droed Dinas Caerdydd. Bydd y teganau a’r offer yn sicr yn dod â hwyl yr ŵyl i lawer o deuluoedd sy’n ymwneud ag Ysgol Gynradd Gymunedol Penpych.”
Dywedodd Philip Kaye, Rheolwr Gyfarwyddwr Kayes, Caerdydd:
“Mae bob amser yn bleser cefnogi’r gwaith gwych mae Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd a chlwb pêl-droed Dinas Caerdydd yn ei wneud yn y gymuned. Rydyn ni’n hapus i chwarae ein rhan i gefnogi teuluoedd yr adeg hon o’r flwyddyn."