Cardiff City FC Community Foundation welcomes new Partnership with Hodge
Bydd Cwpan Cydlyniant Cymunedol Caerdydd yn dychwelyd ar gyfer 2022, ar y cyd â Heddlu De Cymru a Chymdeithas Horn Development.
Bellach yn ei nawfed flwyddyn, mae’r gystadleuaeth yn defnyddio grym pêl-droed i chwalu rhwystrau, creu cyfleoedd i feithrin cysylltiadau a dod â chymunedau at ei gilydd.
Bydd 15 cymuned o bob cwr o Gaerdydd yn cymryd rhan yn y twrnamaint, gyda thimau o gymunedau Yemen, Sierra Leone, Pacistan, Bengâl, Cwrdeg, y Drindod, Mali, Syria, y Rhath, Groeg, Sbaen, Somalia, Portiwgal, Romania a Phalesteina yn cymryd rhan, yn ogystal â thîm o Swyddogion Heddlu De Cymru.
Mae’r Cwpan Cydlyniant yn galluogi’r cymunedau hyn i ddeall diwylliant a chredoau ei gilydd yn well ac mae’n amlinellu pwysigrwydd ysbryd cymunedol ledled prifddinas Cymru.
Gan weithio ar y cyd â Heddlu De Cymru, mae gan bob cymuned dîm Partneriaeth Cymdogaeth yr Heddlu, sy’n helpu i chwalu’r stigma rhwng yr heddlu a thrigolion y cymunedau sy’n cymryd rhan.
Gan ddechrau ym mis Ionawr 2022, bydd yr 16 cymuned yn cael eu rhannu’n 4 grŵp o 4 tîm, gyda’r tîm buddugol o bob grŵp yn symud ymlaen i Ddiwrnod y Rownd Derfynol ym mis Mai, lle bydd un tîm yn cael ei goroni’n Bencampwyr.
Tynnwyd yr enwau o het yn Stadiwm Dinas Caerdydd, a dyma’r grwpiau:
Grŵp A
Cymuned Mali
Cymuned y Drindod
Cymuned Cwrdeg
Cymuned Palestina
Grŵp B
Cymuned Sbaen
Heddlu De Cymru
Cymuned Pacistan
Cymuned Rwmania
Grŵp C
Cymuned Groeg
Cymuned Portiwgal
Cymuned Yemen
Cymuned Syria
Grŵp D
Cymuned Bengâl
Cymuned SYL
Cymuned y Rhath
Cymuned Sierra Leone
Dywedodd yr Uwcharolygydd Jason Rees, Pennaeth Gweithrediadau Caerdydd a Bro Morgannwg ac Arweinydd Troseddau Casineb Heddlu De Cymru:
“Mae Caerdydd yn ddinas sy’n datblygu a bob blwyddyn, mae’r proffil demograffig a chymdeithasol yn newid. Yn yr un modd, ceir tirwedd o droseddu sy’n newid o hyd hefyd, ac rydyn ni'n gweithio’n galed i gadw golwg ar sut mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar ein cymunedau lleol.
Mae perthnasoedd â’n cymunedau’n cael eu meithrin dros amser ac mae digwyddiad blynyddol fel y Cwpan Cydlyniant Cymunedol yn ein galluogi i ddatblygu cysylltiadau hirdymor gydag aelodau’r gymuned ac yn ein galluogi i fod yn ymwybodol o anghenion a phryderon y cyhoedd sy’n newid.”
Mae’r digwyddiad yn galluogi cymunedau BAME i ddod ynghyd mewn twrnamaint cydweithredol, gan ddefnyddio pêl-droed a grym Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd i ysbrydoli ac uno’r rheini sy’n cymryd rhan.
Mae Cwpan Cydlyniant Cymunedol Caerdydd yn cysylltu â Phrosiect Kicks Sefydliad Pêl-droed Dinas Caerdydd, rhaglen allgymorth i bobl ifanc sy’n ymgysylltu â phobl ifanc o bob cefndir mewn pêl-droed, chwaraeon a datblygiad personol – gan sicrhau dylanwad cadarnhaol, dibynadwy mewn ardaloedd sydd ag anghenion mawr ledled de Cymru.
Mae rhagor o wybodaeth am Kicks ar gael drwy glicio yma.
Cadwch yn gyfoes!
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr misol isod...