Cardiff City FC Community Foundation appoint Chair Designate Andrew Diplock
Ddydd Sul 26 Medi, dilynodd cefnogwyr Dinas Caerdydd y cwrs fel rhan o 10K Bae Caerdydd – y digwyddiad codi arian wyneb yn wyneb cyntaf i ni fod yn rhan ohono ers dros 18 mis.
Yn y tywydd braf yng Nghymru, teithiodd cefnogwyr Dinas Caerdydd o’r gogledd ac mor bell â Milton Keynes i gefnogi elusen swyddogol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd.
Mae’r ymdrech aruthrol wedi golygu bod y rheini sy’n codi arian ar ein rhan wedi codi dros £2000, a fydd yn mynd tuag at barhau i gefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd yn ein cymunedau.
Llongyfarchiadau i bob un o’n rhedwyr, a diolch o galon i chi am eich cefnogaeth.
Mae llefydd ar gael i gynrychioli elusen swyddogol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn Hanner Marathon Caerdydd, Porthcawl a 10K Ynys y Barri.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy glicio yma.