25,000 o ymweliadau hyd yma...

26 Tachwedd 2021

Rydyn ni’n falch o gyhoeddi bod 25,000 o ymweliadau wedi cael eu cofnodi ym mhrosiectau Sefydliad Dinas Caerdydd hyd yma, y flwyddyn academaidd hon.

Mae ein tîm wedi bod yn gweithio mewn ysgolion a lleoliadau cymunedol ledled Caerdydd a’r Cymoedd i gefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd i gyflawni eu potensial yn llawn.

Un o’r ysgolion sy’n elwa o’n cefnogaeth yw Ysgol Gynradd Penllwyn yng Nghaerffili.

Dywedodd Morgan, sy’n 8 oed: “Rydw i wrth fy modd gyda phêl-droed ac rydw i wrth fy modd gyda Dinas Caerdydd. Rydyn ni wedi bod yn gweithio ar ein sgiliau cyfathrebu a’n gwaith tîm.”

Meddai’r Pennaeth ym Mhenllwyn, Mrs. Emma Jones: “Mae’r disgyblion wir yn mwynhau’r gweithgareddau gyda Tom. Maen nhw wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau pêl-droed, wedi datblygu sgiliau newydd ac wedi gwella eu hagwedd at ddysgu. Diolch, Dinas Caerdydd!”

Dywedodd Gavin Hawkey, Cyfarwyddwr y Sefydliad: “Rydyn ni ar y trywydd iawn ar gyfer blwyddyn wych arall. Mae angen ein cefnogaeth ar ein cymunedau yn awr yn fwy nag erioed ac mae ein tîm yn gwneud gwaith anhygoel yn mynd i’r afael ag effaith anghydraddoldebau drwy bêl-droed.”

Cadwch yn gyfoes!

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr misol isod...

Rydym yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau ar ein gwefan