Stori Tia

Pan gofrestrodd Tia ar ein rhaglen Llwybrau’r Dyfodol, roedd ei phrofiadau negyddol o’r system addysg yn golygu mai ni oedd y dewis olaf ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau o Trowbridge...

Pan gofrestrodd Tia ar ein rhaglen Llwybrau’r Dyfodol, roedd ei phrofiadau negyddol o’r system addysg yn golygu mai ni oedd y dewis olaf ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau o Trowbridge.

Ar ôl cael ei gwahardd o’r ysgol, roedd Tia yn byw ar ei phen ei hun ac nid oedd yn cymryd rhan mewn addysg na hyfforddiant. Er gwaethaf ei phrofiadau, roedd Tia eisiau symud ymlaen i addysg bellach er mwyn gwella ei siawns o gael gwaith. Wrth glywed am Lwybrau’r Dyfodol, meddyliodd tybed a fyddai’n gweddu’n well i’w hanghenion na’r ysgol neu’r coleg.

Mae Llwybrau’r Dyfodol yn rhaglen addysg ôl-16 sy’n cyfuno astudiaethau addysgol gyda chwaraeon mewn amgylchedd unigryw ac yn cefnogi pobl ifanc i symud ymlaen i addysg bellach, cyflogaeth a hyfforddiant.

Ers ymuno, mae Tia wedi meithrin perthynas gadarn gyda’i thiwtoriaid a’i chyfoedion newydd fel ei gilydd, ac mae ei hagwedd at addysg yn llawer mwy cadarnhaol. Mae hi wedi symud ymlaen i Raglen BTEC lefel 3, a fydd yn cael ei chwblhau ym mis Medi, ac mae hi’n awr yn gobeithio astudio hyfforddi yn y Brifysgol.

Mae gan Tia gariad newydd at addysg diolch i Llwybrau'r Dyfodol

Roedd ymuno â’n rhaglen addysg yn galluogi Tia i gael gafael ar gymorth gyda chyngor ar sgiliau a chyflogadwyedd a cheisiadau am grantiau. Roedd hi hefyd wedi gwella ei lles ac wedi dechrau byw’n iachach diolch i futsal a gweithgareddau meithrin tîm.

Mae Tia yn canmol Llwybrau'r Dyfodol am roi ail gyfle iddi gael addysg ac eglurodd fod cymryd rhan yn y rhaglen wedi gweddnewid ei bywyd:

“Doeddwn i ddim yn mwynhau’r ysgol, gan fy mod i’n teimlo nad oedd athrawon yn rhoi unrhyw barch i mi, felly doedd fy agwedd ddim yn wych. Ar ôl i mi adael, fe wnes i roi cynnig ar ychydig o golegau gwahanol, ond doedden nhw ddim yn addas i mi.

“Ymuno â Llwybrau’r Dyfodol oedd un o’r penderfyniadau gorau i mi ei wneud erioed. Rydw i’n cyd-dynnu’n dda iawn gyda’r tiwtoriaid, ac maen nhw’n siarad â mi fel unigolyn cyfartal, sy’n bwysig i mi. Doedd gen i ddim syniad beth roeddwn i eisiau ei wneud gyda fy mywyd, ond nawr rydw i wedi dod o hyd i lwybr rydw i eisiau ei ddilyn i lunio dyfodol i mi fy hun. Fe fyddwn i ar goll heb y cwrs hwn.”

Mae rhagor o wybodaeth am ein rhaglenni Llwybrau’r Dyfodol ar gael drwy glicio yma.

Rydym yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau ar ein gwefan