Cardiff City FC Community Foundation receives generous donation from The Persimmon Foundation
Supporting our work in health, education, and social inclusion in Cardiff and the wider South East Wales region
19 Mawrth 2024
Mae Sefydliad Pêl-droed Dinas Caerdydd yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc ddysgu mwy am y cyrsiau sydd gennym i’w cynnig yn ein Noson Agored ddydd Mercher 16 Chwefror 2022.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal o 5:30pm ymlaen, a bydd yn gyfle i bawb glywed mwy am ein cyrsiau, cwrdd â’n tiwtoriaid a’n hyfforddwyr a chael gwybod mwy am ein cyfleusterau gorau yn Nhŷ Chwaraeon Caerdydd (CF11 8AW).
BA (Hons) Sports Business and Management
To study this degree you’ll need a formalised affiliation with a professional Sports club, through the EFL.
Lectures are produced by USW staff, but you study these materials remotely at Cardiff City House of Sport with us. You will also attend USW up to 3-times per year for Residential Study Visits. You’re also assigned a Cardiff City FC Foundation Mentor who facilitates your learning and supports the organisation of your weekly placement.
A key part of this degree is the increased amount of placement hours you will experience. You will undertake 4-8 hours per week in year 1 and 7-14 hours per week in years 2 and 3. These experiences will mainly be working within the remit of Cardiff City FC and will give you practical experience of working within the sports business and management industry.
Places for our Open Evening are limited, secure your place below.
Ymgysylltu â Hyfforddeiaethau
Strwythur y cwrs Ymgysylltu â Hyfforddeiaethau yw’r cydbwysedd perffaith rhwng dysgu yn yr ystafell ddosbarth a gweithgareddau ymarferol.
Mae ein cwrs Ymgysylltu â Hyfforddeiaethau yn rhoi’r cyngor, y technegau a’r profiad i bobl ifanc ddod yn barod am waith neu symud ymlaen i addysg bellach.
Rydyn ni'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau meddal mewn amgylchedd hyblyg i helpu i ddatgloi potensial pob myfyriwr a pheidio â rhoi unrhyw bwysau ar ennill cymwysterau.
BTEC Lefel Un mewn Chwaraeon
Mae’r cwrs Hyfforddeiaeth Lefel 1 yn caniatáu i bobl ifanc 16-19 oed gyfuno eu hastudiaethau gyda sesiynau ymarferol. Mae’r cwrs yn ddilyniant naturiol i fyfyrwyr sy’n cwblhau’r cwrs Ymgysylltu â Hyfforddeiaethau.
Mae’r cwrs yn canolbwyntio’n glir ar waith, gan roi sylw i’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i weithio yn y sector chwaraeon a hamdden.
Mae’r unedau’n cynnwys sut mae’r corff yn gweithio, cynllunio rhaglen ffitrwydd, helpu i hyfforddi, a chyfleoedd am swyddi ym maes chwaraeon. Fel elusen swyddogol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, rydyn ni’n gallu cynnig cyfleoedd profiad gwaith gwych a lleoliadau gwaith sy’n gysylltiedig â’r sector, o fewn Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd ac adrannau helaeth Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd.
Y dull astudio nodweddiadol ar gyfer y cwrs hwn yw 5 diwrnod yr wythnos, sy’n cynnwys 50% o sesiynau ystafell ddosbarth a 50% o sesiynau ymarferol. Wrth gymryd rhan yn y cwrs, bydd myfyrwyr yn cael £50 yr wythnos yn ogystal ag unrhyw gostau teithio.
BTEC Lefel Dau mewn Chwaraeon
Strwythur y cwrs BTEC Lefel 2 yw’r cydbwysedd perffaith rhwng dysgu yn yr ystafell ddosbarth a gweithgareddau ymarferol.
Rydyn ni’n falch o allu cynnig awyrgylch hamddenol i’n myfyrwyr ddysgu a’r cyfle i drosglwyddo’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu yn yr ystafell ddosbarth drwy sesiynau hyfforddi ymarferol wedi’u strwythuro.
Bydd myfyrwyr yn gweithio i gwblhau Diploma BTEC Lefel 2 mewn Chwaraeon, sy’n gymhwyster academaidd cyfwerth â 4 TGAU. Rydyn ni'n darparu cyfleoedd cynnydd gwych i’r dysgwyr hynny sy'n awyddus i astudio BTEC Lefel 3, yn ogystal â darparu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth neu brentisiaethau.
Diploma Estynedig BTEC Lefel Tri mewn Chwaraeon
Mae Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 mewn Perfformiad a Rhagoriaeth mewn Chwaraeon yn gwrs unigryw lle gall myfyrwyr ddatblygu eu hoffter o chwaraeon a’u brwdfrydedd dros ddysgu.
Rydyn ni’n ymfalchïo mewn creu amgylchedd croesawgar a chefnogol er mwyn i’n myfyrwyr allu ffynnu. Cynhelir y cwrs mewn partneriaeth â Choleg Caerdydd a’r Fro ac mae’n rhoi cipolwg i fyfyrwyr ar ymarferoldeb y diwydiant chwaraeon, mewn amgylchedd dysgu anhraddodiadol.
Mae gwersi damcaniaethol yn ymdrin ag ystod eang o bynciau. Mae’r unedau’n cynnwys Anatomeg a Ffisioleg, Hyfforddi ar gyfer Perfformiad a Phrofi Ffitrwydd.
Dim ond hyn a hyn o lefydd sydd ar gael yn ein Noson Agored ddigidol, felly archebwch eich lle isod.
Cardiff City FC Community Foundation receives generous donation from The Persimmon Foundation
Supporting our work in health, education, and social inclusion in Cardiff and the wider South East Wales region
Cardiff City FC and Cardiff City FC Community Foundation Bring Christmas Cheer to Local Communities
Thanks to a generous annual donation of toys from Kayes of Cardiff the club, and its official charity, continue their mission to support disadvantaged communities during the Christmas period.
From Learners to Leaders!