Mae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd a Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn galw ar bob cefnogwr i roi esgidiau pêl-droed i’r rheini sydd eu hangen yn ein cymunedau.
Mae llawer o blant a phobl ifanc yng nghymunedau Dinas Caerdydd yn methu fforddio esgidiau pêl-droed ac esgidiau addas i fanteisio ar gyfleoedd pêl-droed lleol.
Gyda’r argyfwng costau byw cynyddol yn gorfodi mwy o deuluoedd i dlodi, ni fydd mwy fyth o bobl yn gallu profi’r manteision iechyd a chymdeithasol sy’n gysylltiedig â phêl-droed.
Yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, rydyn ni’n frwd dros gynhwysiant a gwneud pêl-droed yn fwy hygyrch. Felly, rydyn ni’n galw ar gefnogwyr i roi esgidiau pêl-droed, esgidiau rhedeg a phadiau crimog i gefnogi’r rheini sydd ei angen fwyaf.
Rydyn ni’n chwilio am y canlynol mewn pob maint – plant ac oedolion:
- Esgidiau pêl-droed
- Esgidiau cae pob tywydd
- Padiau crimog
Bydd unrhyw esgidiau a roddir yn cael eu dosbarthu drwy dîm y Sefydliad i’n hysgolion a grwpiau cymunedol partner, gan ddechrau gyda theuluoedd incwm isel a phobl ifanc sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig.