Gadael rhodd yn eich ewyllys

Mae gadael rhodd yn eich ewyllys yn ymwneud llai â’r presennol, a mwy am yr effaith y gallwch ei chael ar genedlaethau’r dyfodol.

Mae gadael rhodd yn eich ewyllys yn rhoi llai o bwyslais ar y presennol, a mwy ar yr effaith y gallwch ei chael ar genedlaethau’r dyfodol.

Mae gadael rhodd yn eich ewyllys yn rhoi llai o bwyslais ar y presennol, a mwy ar yr effaith y gallwch ei chael ar genedlaethau’r dyfodol. Gallai eich cefnogaeth ein helpu i ddarparu cyfleoedd i gannoedd o blant a phobl ifanc yn ein cymuned. Ni waeth beth yw maint eich rhodd, gallwn sicrhau y bydd eich rhodd yn gwneud gwahaniaeth.

Pam gwneud ewyllys?

Mae ysgrifennu ewyllys yn broses bwysig a phersonol iawn sy’n gallu rhoi cymorth a chefnogaeth i bobl, achosion ac elusennau sy’n agos at eich calon, am flynyddoedd lawer ar ôl i chi farw. Heb ewyllys, mae'r gyfraith yn nodi rheolau diewyllysedd clir o ran sut y caiff eich ystâd ei dosbarthu, ac efallai na fydd hynny'n cyd-fynd â'ch dymuniadau.

Mae gwneud ewyllys yn syml ac mae’n un o’r pethau mwyaf defnyddiol ac effeithiol y gallwch ei wneud i sicrhau bod yr holl fuddiolwyr o’ch dewis yn cael yr etifeddiaeth sy’n ddyledus iddyn nhw yn eich barn chi.

Fel elusen gofrestredig, mae eich rhodd i Sefydliad Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi’i heithrio rhag talu treth etifeddiant, a thrwy adael rhodd, gallech leihau eich bil treth etifeddiant cyffredinol. I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallai hyn effeithio arnoch chi, ewch i wefan Cyllid a Thollau EM neu siaradwch â’ch cyfreithiwr.

Sut gallai fy rhodd wneud gwahaniaeth?

Gall cofio am Sefydliad Pêl-droed Dinas Caerdydd yn eich ewyllys gael effaith gadarnhaol ar fywydau di-rif mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd:

  • Cefnogi cenedlaethau’r dyfodol i gyflawni eu potensial a byw bywydau iachach a mwy egnïol
  • Gwella cyfleoedd addysg a chyflogaeth i bobl ifanc yn ein cymuned
  • Lleihau troseddu ac aildroseddu, gan wneud ein cymunedau’n fwy diogel i bawb

Sut mae rhoi rhodd yn fy ewyllys?

Rydyn ni'n argymell yn gryf eich bod yn ymgynghori â chynghorydd cyfreithiol cyn gwneud neu newid eich ewyllys. Bydd yn gallu rhoi cyngor i chi ar y mathau o roddion a chymynroddion y gallwch eu gwneud, yn seiliedig ar eich dymuniadau a'ch amgylchiadau ariannol.

Mae gwahanol fathau o roddion y gallwch eu rhoi yn eich ewyllys, a’r rhai mwyaf cyffredin yw:

  • Mae rhodd ARIANNOL yn swm penodol o arian.
  • Mae rhodd BENODOL yn eitem neu feddiant penodol, fel eiddo, tir, cyfranddaliadau, neu ddarn o gelf.
  • Mae rhodd WEDDILLIOL fel arfer yn golygu gadael canran (%) o weddill eich ystad, ar ôl caniatáu ar gyfer treuliau, cymynroddion ariannol a phenodol. Mae llawer o bobl yn dewis gadael rhodd weddilliol am ei fod yn cynnal ei gwerth gyda chwyddiant.

Gallwch lwytho rhywfaint o’r geiriad ewyllys rydyn ni'n ei awgrymu i lawr i’w rannu â’ch cyfreithiwr yma.

Y Camau Nesaf

Does dim rhaid i chi ddweud wrthym am eich bwriadau, ond byddem wrth ein bodd pe baech yn gwneud hynny. Mae hyn yn caniatáu i ni drafod y camau nesaf a sicrhau ein bod yn gallu gwireddu eich dymuniadau.

Cysylltwch â ni ar 029 2023 1212 neu fundraising@cardiffcityfc.org.uk. Gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd eich gohebiaeth yn cael ei thrin yn gyfrinachol.

Cysylltu â Ni

Rydyn ni'n argymell yn gryf eich bod yn ceisio cyngor proffesiynol gan eich cyfreithiwr wrth ysgrifennu neu newid eich ewyllys.


Rydym yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau ar ein gwefan